Pwyllgor Craffu Menter a Busnes

22 Medi 2011

 

Tystiolaeth gan y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd, Bwyd a Rhaglenni Ewropeaidd.

 

CYFLWYNIAD

 

1.    Rwy’n croesawu’r cyfle i amlinellu fy ngweledigaeth a’m blaenoriaethau ar gyfer Rhaglenni Ewropeaidd.  Rwyf eisoes wedi rhoi tystiolaeth i’r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar elfennau Amaethyddiaeth, Bwyd a Physgodfeydd fy mhortffolio. 

 

2.    Mae cael yr holl Raglenni Ewropeaidd o dan un portffolio yn rhoi cyfle unigryw i mi gynyddu’r cysylltiadau a’r cydgysylltu rhwng yr amrywiol ffrydiau ariannol hyn a’u defnyddio mewn ffordd fwy holistig, ar draws y Llywodraeth gyfan, er mwyn cynnal twf a swyddi cynaliadwy.

 

3.    Bydd rhaglenni Ewropeaidd yn cael eu halinio’n agos gyda  blaenoriaethau Llywodraeth Cymru yng nghyd-destun strategaeth Ewrop 2020 ar gyfer twf call, cynaliadwy a chynhwysol.

 

4.    Hefyd, rwyf wedi amlinellu yn Atodiad A y gwaith sy’n cael ei wneud ar yr argymhellion perthnasol ar raglenni’r Cronfeydd Strwythurol o adroddiad etifeddiaeth defnyddiol iawn y Pwyllgor Menter a Dysgu.

 

ein GWELEDIGAETH AR GYFER RHAGLENNI EWROPEAIDD

 

5.   Sicrhau bod ein Rhaglenni Ewropeaidd ni ymysg y mwyaf llwyddiannus yn yr UE am lunio’r amodau ar gyfer twf economaidd call, cynaliadwy a chynhwysol.

 

EIN CENHADAETH

 

6.   Gweithio gyda’n partneriaid yn y sector preifat a chyhoeddus ac yn y trydydd sector ledled Cymru i wneud y defnydd gorau o Gronfeydd Ewropeaidd trwy gefnogi buddsoddiadau strategol ac arloesol yn ein seilwaith, yn ein busnesau, yn ein cymunedau ac yn ein pobl.

 

BLAENORIAETHAU

 

7.   Mae fy mlaenoriaethau yn gofyn am gydbwysedd rhwng canolbwyntio ar gyflwyno rhaglenni presennol yr UE a pharatoi’r ffordd ar gyfer cyflwyno rhaglenni'r UE yng Nghymru o 2014 ymlaen yn effeithiol ac yn effeithlon:

 

(a)  Sicrhau bod y Rhaglenni Ewropeaidd presennol yn cael eu rhoi ar waith yn effeithiol a’u bod yn dod â manteision cynaliadwy i bobl, busnesau a chymunedau ar draws Cymru yn unol â pholisïau’r UE a Llywodraeth Cymru;

 

(b)  Mewn trafodaethau ynghylch dyfodol polisïau Cydlyniant a’r PAC ar lefel y DU a’r UE, cyflwyno achos cryf iawn dros Gymru gan geisio sicrhau canlyniad sy’n adlewyrchu ein hanghenion yn deg ac sy’n rhoi sail ar gyfer cryfhau a llywio amgylchedd yng Nghymru sy’n cynnal swyddi a thwf cynaliadwy;  

 

(c)  Gyda’n partneriaid, datblygu Rhaglenni Ewropeaidd ar gyfer 2014-2020 fydd yn helpu i gyfrannu at amgylchedd cadarnhaol ar gyfer twf a swyddi cynaliadwy o ansawdd, gan adlewyrchu ein huchelgeisiau cyffredin ar gyfer llwyddiant economaidd;

 

(d)  Symleiddio’r modd y caiff Rhaglenni Ewropeaidd eu rhoi ar waith gan gynnwys mwy o integreiddio ar draws ffrydiau ariannu'r UE ac annog defnyddio dulliau arloesol;

 

(e)  Cynyddu nifer y cyrff ledled Cymru, gan gynnwys cwmnïau yn y sector preifat, sy’n ymgeisio am gyllid Ewropeaidd a gweithio gyda’n partneriaid i ddatblygu cymorth ariannol mwy cynaliadwy;

 

(f)   Hybu Cymru fel gwlad sy’n rhagori ac yn arloesi yn y modd y mae’n defnyddio cronfeydd Ewropeaidd a rhannu arferion gorau gyda gwledydd a rhanbarthau ar draws yr UE.

 

 

MATERION allweddol O BWYSIGRWYDD STRATEGOL 

 

8.   Mae cyflwyno’r gyfres bresennol o raglenni'r UE yng Nghymru yn llwyddiannus yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol.  Mae’r rhaglenni hyn wedi gwneud cyfraniad pwysig at ein helpu mewn cyfnodau economaidd anodd iawn. 

 

9.   Bellach, rydym wedi ymrwymo 81% o gyllideb y rhaglen Cronfeydd Strwythurol i brosiectau a gymeradwywyd (dros £1.5 biliwn o grant yr UE).  Mae’r prosiectau hyn eisoes wedi cynorthwyo 230,000 o gyfranogwyr ac mae 68,000 ohonynt wedi cael cymorth i ennill cymwysterau a chafodd rhyw 28,500 gymorth i ddod o hyd i waith.  Yn ogystal, mae 5,700 o fusnesau wedi cael cymorth sydd wedi helpu i greu dros 8,000 (gros) o swyddi a 1,750 o fentrau newydd.  Hefyd, rydym wedi cyflawni pob un o dargedau gwariant y Comisiwn Ewropeaidd (N+2) ar gyfer 2011.

10. Mae’r sefyllfa economaidd sydd ohoni, gan gynnwys cyfraddau cyfnewid cyfnewidiol, yn parhau i fod yn her ond rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod y rhaglenni hyn yn parhau i gynorthwyo pobl, busnesau a chymunedau Cymru trwy’r anawsterau hyn yn ogystal â gosod sylfeini ar gyfer twf a swyddi cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

 

11. Hefyd, er mwyn helpu i roi arweiniad a siâp i ddatblygiad unrhyw raglenni newydd, bydd angen gwneud penderfyniadau strategol.  Yn ystod y misoedd nesaf, byddaf yn trafod y materion hyn gyda’n partneriaid ledled Cymru gyda’r nod o ddeall yn iawn i ba gyfeiriad y dylai’r rhaglenni hyn fynd.  Mae’r prif faterion i’w hystyried yn cynnwys y canlynol:

 

(a)  Nodi’r blaenoriaethau craidd ar gyfer cymorth ariannol o dan raglenni’r UE yn y dyfodol, gan gynnwys gwneud dewisiadau a defnyddio’r adnoddau er mwyn manteisio i’r eithaf ar y cymorth a geir;

 

(b)  I ba raddau y mae targedu daearyddol a thargedu gofodol gan gynnwys ystyried y ffordd orau i gefnogi anghenion ardaloedd trefol a gwledig a sut y gallwn ni ddefnyddio dulliau yn ymwneud â rhanbarth dinas a manteisio i’r eithaf arnynt;

 

(c)  Nodi’r ffyrdd gorau o gyfrannu tuag at nodau twf call, cynaliadwy a chynhwysol, gan gynnwys defnyddio cyfryngau buddsoddi ariannol arloesol;

 

(d)  Ystyried y cydbwysedd a’r sgôp ar gyfer integreiddio’r amrywiol gronfeydd UE yng Nghymru yn ogystal â gwneud y mwyaf o effaith y buddsoddiadau hyn;

 

(e)  Adolygu dulliau cyflwyno gyda’r nod o’i gwneud hi’n haws ymgeisio am gyllid ac ar yr un pryd, sicrhau bod y prosiectau o ansawdd uchel.

 

 

 

12. Unwaith y cytunir ar gyfeiriad cyffredinol rhaglenni’r UE yn y dyfodol, byddwn yn gweithio gyda’n partneriaid ar fanylion y rhaglenni.  Bydd hyn yn cynnwys ystyried y gwersi a ddysgwyd o raglenni 2007-2013 a rhaglenni cynharach a’r sgôp ar gyfer symleiddio’r trefniadau o roi’r rhaglenni ar waith a chael gwared ar rwystrau sy’n atal cyrff rhag cymryd rhan.

 

 

Y CAMAU NESAF

 

·                     Hydref 2011: Comisiwn Ewrop yn cyhoeddi’r drafft cyntaf o’r rheoliadau sy’n llywodraethu’r Cronfeydd Strwythurol a’r PAC

 

·                     Tachwedd 2011 - Rhagfyr 2011:Cynnal “Ymarfer myfyrio” a  gwahodd partneriaid i leisio’u barn ar y cychwyn cyntaf ynghylch cyfeiriad strategol rhaglenni’r UE yn y dyfodol

 

·                     Dechrau 2012: Amlinellu’r weledigaeth sydd gan y Llywodraeth ar gyfer rhaglenni’r UE yng Nghymru yn y dyfodol ac i ba gyfeiriad y mae’n dymuno iddynt fynd

 

·                     Dechrau 2012 – Hydref 2012:Datblygu’r rhaglenni gyda phartneriaid

 

·                     Hydref 2012: Ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch rhaglenni’r UE yn y dyfodol

 

·                     Gwanwyn 2013 - Hydref 2013:Cyflwyno dogfennau’r rhaglenni i’r Comisiwn Ewropeaidd a’u trafod

 

·                     2014: Lansio a chyflwyno rhaglenni UE 2014–2020 yng Nghymru

 

 

 

13.Yn ystod y cyfnod hwn, byddwn yn gweithio i sicrhau bod llais Cymru yn cael ei glywed gan adeiladu ar y cysylltiadau yr ydym wedi’u gwneud ers tro gyda’r Comisiwn Ewropeaidd a sefydliadau eraill yn yr UE a thrwy fynychu pwyllgorau Cyngor y Gweinidogion fel sy’n briodol.

 

14.Byddaf yn parhau i weithio’n agos gydag aelodau Senedd Ewrop Cymru a chyda Llywodraeth y DU trwy’r Cydgyngor Gweinidogion ar Ewrop er mwyn mynd ar ôl buddiannau Cymru ar bob lefel o’r drafodaeth.  Byddwn yn parhau i ddadlau dros reolau symlach, tecach a mwy cymesur ar gyfer y rownd nesaf o raglenni a mwy o hyblygrwydd yn y ffordd y gallwn ddefnyddio’r cronfeydd hyn i wneud y mwyaf posibl o gyfleoedd ar gyfer twf a swyddi cynaliadwy yng Nghymru.

 

15.Hefyd, rwy’n adolygu strwythurau mewnol Llywodraeth Cymru a’r trefniadau ar gyfer gweithio ar ffurf partneriaeth er mwyn sicrhau bod y dull a ddefnyddiwn i ddatblygu rhaglenni Ôl-2013 yn fwy integredig.

 

 


ATODIAD A: Ymateb i argymhellion adroddiad etifeddiaeth y Pwyllgor Menter a Dysgu

 

Rwy’n cydnabod y cyfraniad pwysig y mae Pwyllgor Menter a Dysgu’r Cynulliad diwethaf wedi’i wneud i’r drafodaeth hon.  Isod, nodir y camau gweithredu presennol yn erbyn argymhellion yr adroddiad a etifeddwyd yn ymwneud â Rhaglenni Ewropeaidd.

 

Argymhelliad 15. Dylai cynnydd wrth weithredu’r Rhaglenni Cronfeydd Strwythurol presennol barhau i fod yn destun craffu yn y Pedwerydd Cynulliad.  Dylai’r pwyllgor perthnasol ofyn am ddiweddariadau rheolaidd gan Lywodraeth Cymru a cheisio ymchwilio i wahaniaethau ac  anghysonderau rhyngranbarthol yn ogystal â chraffu ar berfformiad Cymru o’i gymharu â rhanbarthau eraill y DU a’r UE yn gyffredinol.

 

Byddaf yn hapus i hysbysu’r Pwyllgor o unrhyw ddatblygiadau ynghylch y Rhaglenni Cronfeydd Strwythurol.  Rydym yn cytuno i fod yn dryloyw wrth ddatblygu a chyflwyno’r rhaglenni yng Nghymru.

 

Hefyd, fel rhan o’i adolygiad o’r dystiolaeth i gyfrannu at ddatblygu  rhaglenni’r Cronfeydd Strwythurol newydd, bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried y gwersi a ddysgwyd ac arferion gorau ar draws yr UE. 

 

 

Argymhelliad 16. Mae risg o hyd o gyfrif dwbl a than gyfrif deilliannau neu lwyddiannau prosiectau a allai effeithio ar gynnydd unigolyn a dylai’r Pedwerydd Cynulliad barhau i  fonitro hyn.  Mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o hyn ond dylid sicrhau bod systemau casglu data yn osgoi problemau o’r fath, gan gynnwys annog cytundebau lleol pan fydd ymyriadau prosiectau’n gorgyffwrdd.

Mae WEFO yn fodlon bod ei system casglu data ar lefel y cyfranogydd yn caniatáu iddo nodi a yw’r unigolyn wedi ymwneud â mwy nag un prosiect ac i ddilyn hynt y cyfranogwyr o ddiweithdra / anweithgarwch i gyflogaeth.  Defnyddir system debyg ar gyfer ERDF lle bydd WEFO yn casglu gwybodaeth ynghylch y busnesau a gefnogir.

 

Hefyd, mae WEFO yn rhoi cyngor ar arferion gorau er mwyn osgoi cyfrif dwbl deilliannau rhwng prosiectau.

 

Argymhelliad 17. Yn ogystal, dylid annog Llywodraeth Cymru i ddatblygu cyfres fanylach o ddata i fonitro’r  cynnydd y tu hwnt i Werth Ychwanegol Crynswth (GVA) yn unig.

Mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio amrywiaeth o ddangosyddion tracio sy’n rhoi cyd-destun cyffredinol ar gyfer asesu cynnydd prosiectau yn y gorllewin a’r Cymoedd.  Maent yn cynnwys data economaidd lefel uchel, data ar y farchnad lafur, data ar arloesi, sgiliau a menter a data ar gydlyniant cymdeithasol.

 

 

 

 

Argymhelliad 18. Dylid monitro’n agos effaith y toriadau yng ngwariant y sector cyhoeddus ar argaeledd arian cyfatebol ar gyfer prosiectau Cronfeydd Strwythurol yn ofalus a dylid cael cynlluniau wrth gefn os bydd angen.

Mae hyn yn rhan o’r ffordd y mae WEFO yn parhau i reoli risgiau gweithredu. 

 

Yn 2009, cytunwyd gyda’r Comisiwn Ewropeaidd ar lefelau ymyrryd diwygiedig yr UE sy’n caniatáu mwy o hyblygrwydd i leihau’r pwysau ar arian cyfatebol posibl. 

 

Mae Pwyllgor Monitro Rhaglen Cymru Gyfan wedi gofyn i gael eu hysbysu ynghylch effaith yr Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant ar arian cyfatebol ac yn ei gyfarfod ym mis Mawrth 2011, trafodwyd papur diweddaru:   (wefo.wales.gov.uk/programmes/

allwalespmc/pmcmarch2011/?lang=en)

 

Argymhelliad 19. Dylid herio WEFO i weithio mewn partneriaeth â’r holl brosiectau yn Rhaglenni 2007-13 i greu atebion cynaliadwy ar gyfer y cymunedau ac unigolion yr effeithir arnynt pan ddaw’r prosiectau hyn i ben.

Fel rhan o’r broses gynllunio busnes, mae disgwyl i bob prosiect drafod cynaliadwyedd eu gweithgareddau yn y dyfodol a/neu ddatblygu strategaethau ymadael addas.  Bydd llawer o brosiectau presennol yn parhau i gyflwyno gweithgareddau o dan y rhaglenni presennol hyd 2015. 

Bydd offerynnau ariannol fel JEREMIE a JESSICA yn hwyluso’r gwaith o ailgylchu cronfeydd y tu hwnt i gyfnod presennol y rhaglen.

 

Mae’r effaith cynaliadwy a gaiff buddsoddiadau yn ystyriaeth bwysig wrth ddewis prosiectau a bydd buddsoddiadau fel prosiectau sy’n ymwneud â hyfforddi ac uwchsgilio pobl, ynni adnewyddadwy a thrafnidiaeth gynaliadwy yn creu buddiannau yn yr hirdymor.